Rydym Eich Angen yn Awr
Rydym Eich Angen yn Awr
Gwirfoddolwyr Newydd
Cymerwch Ran Nawr

MMenter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig, yn cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol. Y syniad yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7 – 11 oed. Gan weithio’n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau’r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar gyfranogiad mewn chwaraeon drwy annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus.

Er bod prif ffocws Campau’r Ddraig ar wella’r ddarpariaeth chwaraeon i blant 7 i 11 oed, mae hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio cynorthwywyr i gefnogi datblygiad clybiau chwaraeon ar ôl ysgol neu glybiau chwaraeon cymunedol – a elwir yn Glybiau Campau’r Ddraig.

Mae’r rhan fwyaf o’r clybiau’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac maent angen pob math o gymorth fel eu bod yn dal ati i redeg yn esmwyth. Mae sawl clwb yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr gydag amrywiaeth o brofiadau neu sgiliau. Gallwch helpu mewn sawl ffordd, boed drwy olchi cit, danfon plant i gemau neu gadw cyfrifon y clwb. Ac nid dim ond y tîm a’r plant sy’n elwa. Gall gwirfoddoli fod yn waith cymdeithasol iawn ac yn gyfle i chi gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd. A does dim rhaid i chi fod yn dda mewn chwaraeon o gwbl!

 

Cyngor Chwaraeon Cymru Y Loteri Genedlaetho Llywodraeth Cynulliad Cymru