Rydym Eich Angen yn Awr
Gwirfoddolwyr Newydd
Cymerwch Ran Nawr
  Becky'n camu oddi ar y llinell ochr i fwynhau cymryd rhan

Becky Fleck, 42, Mum

 

Bu fy mhlant yn cymryd rhan mewn sesiynau Campau’r Ddraig yn Sioe Frenhinol Cymru ac roeddent wrth eu boddau. Felly pan sefydlwyd clwb hoci Campau’r Ddraig yn lleol, ni allent ddisgwyl i gymryd rhan.

Gan fod fy mab ifanc i gyda mi yn y sesiynau, roedd raid i mi ei ddiddanu felly dechreuais osod y conau gydag ef, casglu’r offer a helpu’n gyffredinol tra oedd yr hyfforddwyr yn cynnal y sesiynau. Wedyn, dechreuais helpu gyda
chludiant, gan godi plant sy’n byw yn fy ymyl a mynd â hwy i sesiynau a gemau.

Rwy’n synnu at y pleser y mae’r plant a minnau’n ei gael o’r clwb – mae’r amser yn hedfan! Rwyf hefyd yn teimlo bod gwrando ar yr hyfforddwyr yn
cyflwyno’r sesiynau, a gwylio’r rhyngweithio rhyngddynt hwy a’r plant a’r plant a’i gilydd, wedi dangos i mi sut i chwarae gyda fy mhlant fy hun yn well, a chreu gemau diddorol a rhyngweithiol gartref.

Mae ymuno yn hytrach na sefyll yn gwylio a gwneud dim wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o sut mae rhedeg clwb. Os bydd fy mhlant eisiau mynychu clwb neu grwˆp arall, rwy’n gwybod beth i chwilio amdano a beth sy’n angenrheidiol i sicrhau bod fy mhlant yn ddiogel.

Does dim rhaid rhoi gormod o amser – rhyw 2 awr yr wythnos gyda’r teithio – ond mae’n hyblyg hefyd ac yn hawdd, felly gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Hefyd, does dim raid i chi ennill cymhwyster – gallwch wneud ychydig bach, mae popeth yn helpu i redeg y clwb. Does dim rheidrwydd a phe bawn i ddim yn helpu, mi fyddwn i’n sefyll ar y llinell fwy na thebyg – yn oer a diflas.

 

Cyngor Chwaraeon Cymru Y Loteri Genedlaetho Llywodraeth Cynulliad Cymru
Nigel Suraya