Rydym Eich Angen yn Awr
Gwirfoddolwyr Newydd
Cymerwch Ran Nawr
  Campau'r Ddraig yn cynnig bywyd newydd

 

Y n syml iawn, mae Campau’r Ddraig wedi newid fy mywyd i. Roeddwn i wedi bod yn sâl am dipyn a bu hynny’n ergyd i’m hyder. Roeddwn yn teimlo’n ddigon isel. Yna, dyma ffrind i mi’n argymell y dyliwn dechrau
ymwneud â Champau’r Ddraig er mwyn adennill fy hunanhyder.

Dyma gwrdd â chydlynydd lleol Campau’r Ddraig ac ar unwaith rhoddais fy enw ar gyfer y cwrs hyfforddi. Roedd y criw yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl o bob rhan o’r gymuned ac roeddwn yn synnu at drawsdoriad yr oedrannau, y cefndiroedd a’r profiadau.

Doeddwn i heb hyfforddi na gwirfoddoli yn y gorffennol felly roeddwn yn eithaf nerfus i ddechrau. Dechreuais drwy fynychu’r gweithgareddau, helpu yno a gwylio’r hyfforddwyr yn cyflwyno’r sesiynau.

Roedd yr hyfforddwyr yn gwneud i mi deimlo’n gyffyrddus a braf ac roeddwn yn dysgu’r sesiynau fy hun yn fuan iawn, ac yn mwynhau. Roeddwn yn teimlo fy mod yn gwneud rhywbeth defnyddiol ac roeddwn yn cael fy ysbrydoli gan adborth y plant - roedd gweld faint oeddent hwy yn mwynhau fy hyfforddi’n adfer fy hunanhyder.

Rwyf yn llawer mwy hyderus erbyn hyn – cymaint felly fel fy mod ar fin dechrau cwrs ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gweithio gyda Champau’r Ddraig
wedi bod yn ffactor allweddol i wneud i mi deimlo’n werthfawr unwaith eto.

 

Cyngor Chwaraeon Cymru Y Loteri Genedlaetho Llywodraeth Cynulliad Cymru
Suraya Becky