DDechreuais wirfoddoli gyda Champau’r Ddraig tra yn y Brifysgol yn wreiddiol er mwyn cwblhau elfen wasanaethu gwobr Dug Caeredin. Mynychais gwrs hyfforddi trefnyddion Campau’r Ddraig gan helpu mewn gwersylloedd gwyliau yn ystod yr haf, rhwng tymhorau’r brifysgol.
Wedi cwblhau fy ngradd, penderfynais gymryd blwyddyn i ffwrdd i gael profiad cyffredinol o fywyd cymunedol cyn dechrau dringo’r ystol yrfaol. Cefais gyfarfodydd sawl gwaith gyda Chydlynydd lleol Campau’r Ddraig i drafod y cyfleoedd gwirfoddoli oedd ar gael i mi a dechreuais helpu mewn ysgol leol gan redeg clybiau pêl rwyd a phêl droed.
Awgrymodd Cydlynydd Campau’r Ddraig y byddwn yn mwynhau mentora gwirfoddolwyr hefyd efallai, o ystyried fy mhrofiad blaenorol. Gallwn gynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i bobl a all fod yn newydd i’r gwaith neu sydd angen cefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau.
Mae Campau’r Ddraig yn fenter wych gan ei bod yn ceisio cynnwys y gymuned gyfan, rhieni ac athrawon, ac rwy’n edmygu’r hyn mae’n sefyll drosto: chwarae teg, cynnwys pawb, gwaith tîm a hwyl. Mae Campau’r Ddraig yn rhad ac am ddim ac mae’n darparu ar gyfer pob safon a gallu. Mae’n hybu gwerthoedd byw positif ac rwy’n cael boddhad mawr o weld y plant yn cael hwyl.
Rwy’n gwybod y bydd fy ngyrfa yn y dyfodol yn mynnu llawer o’m hamser ac na fyddaf yn cael llawer o gyfle i ryngweithio gyda’r gymuned, felly rwy’n teimlo bod y profiad wedi bod yn hynod werthfawr i mi – mae’n helpu i roi popeth mewn persbectif.
|